Da i mi fod yr addewid Wedi ei rhoddi gan fy Nuw, A bod gair o enau'r nefoedd Uwch gelynion o bob rhyw; Ei addewid Ef, gadarn, gref, Arwain eiddil gwan i'r nef. Bron yr wyf a digaloni, Pan y gwelwyf lwybrau cul, Rhwng rhyw greigiau serth dychrynllyd, Lle tramgwyddodd llawer mil: F'enaid gwan, yn y man, Ddringa etto i fynu i'r lan. O gwna imi brofi sypiau, Sypiau peraidd rawn y wlad, Blas maddeuant pur a heddwch, Gwleddoedd hyfryd tŷ fy Nhad: Dyma hwy, perlau mwy, Gloddiwyd yn ei farwol glwy'.William Williams 1717-91
Tonau [8787337]: gwelir: Aros Iesu yn y rhyfel Mae dy air yn abl fy harwain |
Good for me that the promise Was given by my God, And that a word from heaven's mouth Is above enemies of every kind; His promise, firm, strong, Leads the feeble week to heaven. Almost I am losing heart, When I see narrow paths, Between steep, terrible rocks, Where many a thousand stumbled: 'Tis my weak soul, that soon, Shall climb up again. O make me experience the clusters, The sweet grape-clusters of the land, The taste of pure forgiveness and peace, The delightful feasts of my Father's house: Here they are, pearls evermore, Mined in his mortal wound.tr. 2019 Richard B Gillion |
|